Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymchwiliad i’r achosion o’r Frech Goch 2013 – Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

 

Diben

Mae'r papur hwn yn trafod yr achosion diweddar o'r frech goch a'r materion penodol a godwyd gan y Pwyllgor:

 

 

Rôl Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bennu polisi a chyfeiriad strategol, sy'n cynnwys materion polisi a strategol sy'n codi yn ystod achosion o glefyd sy'n effeithio ar iechyd y cyhoedd neu oherwydd hynny. Bydd y rhan a chwaraeir gan Lywodraeth Cymru yn dibynnu ar raddau a natur yr achosion.  

 

Yn ystod yr achosion diweddar o'r frech goch, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Uwch Dîm Ymateb i Achosion a Byrddau Iechyd er mwyn:

 

 

 

Y cefndir a'r ffactorau a arweiniodd at yr achosion presennol

 

Cyn cyflwyno brechiad yn erbyn y frech goch yn 1968, roedd nifer yr achosion o'r frech goch ledled y Deyrnas Unedig yn amrywio rhwng 160,000 ac 800,000 bob blwyddyn, gan gyrraedd eu hanterth bob dwy flynedd ac achosi 100 o farwolaethau bob blwyddyn. Pan gafodd y brechlyn MMR ei gyflwyno ym mis Hydref 1988, newidiodd y sefyllfa honno'n sylweddol. Yn yr ugain mlynedd rhwng 1992 a 2012, dim ond dwy farwolaeth a fu oherwydd haint brech goch acíwt ledled y Deyrnas Unedig.  Yn sgil y brechlyn MMR, erbyn canol y nawdegau, amharwyd ar drosglwyddiad y frech goch gyda nifer isel iawn o achosion.

Ddiwedd y nawdegau a dechrau'r 2000au, gostyngodd lefelau brechu MMR yn sylweddol.  Dilynodd hyn erthyglau a gyhoeddwyd yn 1997/98 gan Andrew Wakefield ac ambell ymchwilydd arall yn honni bod cysylltiad rhwng MMR ac awtistiaeth a chlefyd y coluddyn. Nid yw'r erthyglau hyn yn dal dŵr bellach ond gwnaeth y sylw a gawsant yn y cyfryngau  ar y pryd beri pryder ymhlith y cyhoedd ynghylch diogelwch y brechlyn.

 

O ganlyniad, gostyngodd cyfraddau defnyddio'r brechlyn MMR ledled y DU. Yng Nghymru, gostyngodd cyfraddau o uchafbwynt chwarterol o 94% yn 1995 i 78% erbyn 2003 ymhlith plant dwy oed. Yn Abertawe, gostyngodd y gyfradd yn 2003 i 67.5%. Er bod hyn yn amlwg yn ffenomenon cenedlaethol, dengys data i'r dirywiad yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ddigwydd yn gynt ac i raddau mwy nag yng ngweddill Cymru. Mae'n debygol mai cyfuniad o ymgyrchoedd yn y cyfryngau lleol, megis ymgyrch "MMR Parent's Fight for Facts" y South Wales Evening Post, ynghyd â sylwadau gan arweinwyr cymunedol ynghylch diogelwch MMR, a allai fod wedi bod yn gyfrifol am hyn. Codwyd pryderon rhieni yn yr ardal hon. 

 

Yr unig ffordd o atal achosion o'r frech goch yw drwy sicrhau bod o leiaf 95% o'r boblogaeth wedi cael dau ddogn o frechlyn MMR er mwyn cyflawni'r hyn a elwir yn "imiwnedd torfol". Ers yr hyn a ddigwyddodd yn Wakefield, mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi cychwyn ar gyfres o gamau gweithredu ac ymgyrchoedd er mwyn gwyrdroi'r cwymp mewn cyfraddau defnyddio MMR.  Ymhlith y camau allweddol yn hyn o beth mae'r canlynol:

 

 

Ers y lefel isel a welwyd yn 2003, mae cyfraddau MMR ar oedrannau rheolaidd wedi parhau i gynyddu.  Ar ddechrau'r cyfnod lle gwelwyd achosion o'r frech goch, roedd y gyfradd ar gyfer y dogn cyntaf o MMR yn ddwy oed wedi cyrraedd 94% ledled Cymru.  Er bod llawer mwy o fabanod yn cael y brechlyn fel rhan o'r amserlen frechu reolaidd, roedd nifer fawr o blant a oedd wedi colli allan yn y gorffennol yn dal i fod yn agored i'r clefyd.

 

Dechreuodd yr achosion o'r frech goch o amgylch Abertawe ym mis Tachwedd 2012.  Rhwng 9 ac 16 Tachwedd, cafodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wybod am dri achos o'r frech goch.  Erbyn 27 Tachwedd, roedd yn amlwg bod y clefyd yn cael ei drosglwyddo mewn ysgolion ac roedd clystyrau o achosion yn cael eu cofnodi yn ardaloedd Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda.

 

Ymateb i'r achosion o'r frech goch

Cafwyd ymateb chwim i'r achosion drwy system iechyd y cyhoedd integredig Cymru. Roedd angen ymateb amlasiantaethol er mwyn sicrhau bod yr achosion yn cael cyn lleied o effaith â phosibl.

 

Darparwyd yr ymateb cychwynnol i'r achosion gan dîm amlddisgyblaethol lleol a oedd yn cynnwys swyddogion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Roedd y camau a gymerwyd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o gylchrediad y clefyd ac annog pobl i gael y brechlyn MMR.  Yn eu plith roedd: sesiynau brechu mewn ysgolion wedi'u targedu; llythyrau i gyrff gofal sylfaenol; llythyrau i bob ysgol; llythyrau pwrpasol at rieni plant heb eu brechu mewn ysgolion lle cofnodwyd y frech goch a datganiad i'r wasg.

 

Erbyn 7 Chwefror, cafwyd gwybod am 168 o achosion.  Felly, penderfynwyd rhoi ymateb cenedlaethol ar waith drwy sefydlu Uwch Dîm Ymateb a wnaeth gyfarfod am y tro cyntaf ar 18 Chwefror. Rhoddodd yr UDY gyngor i fyrddau iechyd, gan gynnwys gofal sylfaenol, y sector addysg a Llywodraeth Cymru, ar y camau roedd eu hangen i ymdrin â'r achosion a sicrhau bod cyn lleied o gyfle â phosibl i nifer yr achosion o'r frech goch gynyddu ledled Cymru.

 

O ganlyniad i'r cydberthnasau gwaith da a sefydlwyd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru, gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyfryngau yn ystod yr achosion bu modd rhoi gwybodaeth glir a chywir i'r cyhoedd, a thrwy hynny godi ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb y frech goch a phwysigrwydd brechiad MMR. Dylai pawb dan sylw gael eu canmol am eu gwaith caled a'u hymdrechion parhaus dros y misoedd diwethaf i atal y clefyd rhag lledaenu.

 

 

Camau gweithredu

Ers dod yn ymwybodol o'r achosion o'r frech goch ym mis Tachwedd 2012, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn monitro hynt yr achosion hyn drwy linellau adrodd a bennwyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Uwch Dîm Ymateb.  Wrth i nifer yr achosion gynyddu, cafwyd adroddiadau dyddiol ar nifer yr achosion a'r camau a gymerwyd. O ganlyniad, bu modd i swyddogion sicrhau bod yr holl fesurau angenrheidiol a phriodol ar waith i leihau effaith yr achosion.  Roedd y camau gweithredu hyn yn anelu at wneud y canlynol:

 

·         sicrhau bod cynifer o blant â phosibl rhwng un a 18 oed wedi cael eu brechiad MMR diweddaraf.

·         ei gwneud yn bosibl i'r plant hynny nad oeddent wedi cael brechlyn MMR i gael eu brechu, er mwyn diogelu eu hunain, aelodau o'r teulu ac eraill yn y gymuned.

·         gweithio gyda'r cyfryngau er mwyn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd brechiad MMR a'r camau y gallai pobl eu cymryd i helpu eraill a hwy eu hunain.

·         ymgysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol - gan gynnwys meddygon teulu, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd er mwyn nodi unigolion agored i niwed a hwyluso brechiadau. 

·         cynnal sesiynau dal i fyny â brechiadau mewn ysgolion, meddygfeydd a chlinigau galw i mewn agored yn yr ardal lle cafwyd achosion a ledled Cymru.

·         rhoi cyngor a gwybodaeth glir i'r cyhoedd gan gynnwys mewn ieithoedd lleiafrifol.

·         annog mwy o staff gofal iechyd i gael eu brechu.

·         gweithio gyda'r gwasanaeth carchardai i hwyluso sesiynau brechu i garcharorion.

·         gwneud newidiadau i gyflymu profion labordy a diagnosis.

·         cyflwyno gwell systemau gwyliadwriaeth fel bod modd olrhain y clefyd a monitro'r ymateb i'n gweithredoedd, yn enwedig cyfraddau brechu.

 

Ar 17 Ebrill, cyhoeddodd y Prif Swyddog Meddygol gynlluniau i frechu pob plentyn ysgol nad oedd wedi'i ddiogelu fel rhan o ymgyrch ledled Cymru, gyda'r nod o gwblhau'r gwaith cyn gynted â phosibl ac erbyn 24 Mai 2013 fan bellaf. Cafodd y gwaith hwn ei gwblhau ar amser a chafwyd dros 12,000 o frechiadau mewn ysgolion.

 

Cyfathrebu

Arweiniwyd yr ymateb yn y cyfryngau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ond cafodd ei gydgysylltu'n agos gyda Byrddau Iechyd, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd dros 100 o gyfweliadau rheolaidd â'r cyfryngau, cyhoeddwyd datganiadau i'r wasg ddwywaith yr wythnos a defnyddiwyd y we a safleoedd cyfryngau cymdeithasol i gyfleu negeseuon hyrwyddo.  Bu'r gydberthynas gadarnhaol a gafodd ei meithrin gyda'r cyfryngau o fudd mawr i ddal sylw'r cyhoedd.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Meddygol nifer o gyfweliadau i'r cyfryngau er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r achosion a phwysigrwydd brechiad MMR a phwysleisio'r camau y gallai pobl eu cymryd i helpu eu hunain ac eraill. 

 

Hefyd, ysgrifennodd y Prif Swyddog Meddygol a'r Ysgrifennydd Parhaol at eu cymheiriaid yng ngwledydd eraill y DU er mwyn eu hysbysu am y camau a oedd yn cael eu cymryd yng Nghymru i atal y clefyd rhag lledaenu. 

 

Rwyf wedi ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ac eraill:

 

15 Mawrth            Ymatebais yn fanwl i lythyr gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a gododd bwyntiau allweddol ynghylch ymdrin â'r achosion ar y pryd.

 

26 Mawrth            Ysgrifennais at Aelodau'r Cynulliad, Aelodau Seneddol, Arweinwyr Cynghorau a Chadeiryddion Byrddau Iechyd yng Nghymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt a gofyn am eu cymorth fel arweinwyr cymunedol, wrth fynd i'r afael â lledaeniad y clefyd.

 

16 Ebrill/23 Mai   Cyhoeddais ddatganiadau ysgrifenedig yn nodi'r sefyllfa ddiweddaraf ac yn annog pobl ifanc a rhieni plant nad oeddent wedi'u brechu'n llawn i gysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol.

 

11 Mehefin           Cafwyd cyfarfod llawn ar yr achosion o'r frech goch a'r rhaglenni brechu newydd.

 

Canlyniad

Cyrhaeddodd nifer yr achosion a gofnodwyd o'r frech goch eu hanterth erbyn 15 Ebrill pan nodwyd bron 200 o achosion mewn wythnos. Erbyn canol mis Mai, roedd nifer yr achosion a nodwyd bob wythnos wedi syrthio i un rhan o ddeg o'r ffigur hwnnw.  Mae'r graff yn Atodiad 1 yn dangos effaith y camau cyfunol a gymerwyd mewn ymateb i'r achosion.

 

Rhwng 18 Mawrth ac 23 Mehefin, rhoddwyd 72,790 o frechiadau MMR nas trefnwyd mewn amrywiaeth o leoliadau.  Cafodd y mwyafrif, 45,080, eu rhoi mewn gofal sylfaenol drwy feddygfeydd; cafodd 12,427 eu rhoi drwy'r rhaglen ysgolion a chafodd 5,639 eu rhoi mewn sesiynau galw i mewn agored. Ceir dadansoddiad fesul Bwrdd Iechyd yn Atodiad 2.  Yn ogystal, mae dros 1,600 o garcharorion a thros 5,600 o staff gofal iechyd wedi cael brechiadau MMR ers mis Mawrth.

 

Yn ôl amcangyfrifon Iechyd Cyhoeddus Cymru, ym mis Tachwedd 2012, roedd 41,129 o blant yng Nghymru rhwng dwy a 18 oed nad oeddent wedi cael unrhyw frechiad MMR a 35,926 arall a oedd wedi derbyn un dos. O fewn y grŵp hwn, ystyriwyd bod y gyfran uchaf o blant a oedd yn debygol o wynebu risg rhwng 10 a 18 oed, gydag amcangyfrifon yn dangos nad oedd 50,887 o blant a phobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru wedi cael y cwrs dau ddogn llawn o MMR.

 

Dengys y graff yn Atodiad 3 yr effaith a gafodd yr ymgyrch MMR ar leihau nifer y plant heb eu brechu yng Nghymru. Cafwyd yr effaith fwyaf yn yr ardal lle gwelwyd yr achosion o'r frech goch lle canolbwyntiwyd yr ymateb fwyaf.

 

Mae'r gwaith modelu a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, drwy Brifysgol Warwick, wedi awgrymu, dros dro, heb ymgyrch dal i fyny â brechiadau, y byddai'r epidemig wedi parhau tan ddiwedd yr hydref 2013, gyda nifer yr achosion yn cyrraedd eu hanterth ddiwedd mis Mehefin. Mae'r ymdrechion a wnaed ar y cyd wedi golygu bod yr achosion o'r frech goch wedi para llai o amser, tua 10 wythnos yn llai, a'u bod yn llai difrifol o ffactor o 20. Gydag 88 o unigolion wedi'u derbyn i'r ysbyty oherwydd yr achosion o'r frech goch, mae'n hawdd gweld yr effaith bosibl fel arall.

 

Gwersi a ddysgwyd ar gyfer achosion yn y dyfodol

 

Yn unol â'r Cynllun ar gyfer Achosion i Gymru a pholisi iechyd y cyhoedd cenedlaethol, caiff adroddiad cynhwysfawr ar y ffactorau a wnaeth gyfrannu at yr achosion o'r frech goch a'r camau a gymerwyd gan bawb dan sylw mewn ymateb iddynt ei lunio ar ôl cyhoeddi nad yw'r frech goch yn dal i gylchredeg yn y gymuned.   Iechyd Cyhoeddus Cymru fydd yn arwain ar hyn a'r nod fydd nodi bylchau yn y strategaethau a'r systemau a ddefnyddiwyd yn ystod yr achosion a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau pellach i'w rhoi ar waith yn y dyfodol.  Bydd Is-Grŵp Achosion a Digwyddiadau y Pwyllgor Diogelu Iechyd yn adolygu'r argymhellion a'r gwersi a ddysgwyd. Caiff y Cynllun ar gyfer Achosion i Gymru ei adolygu a'i ddiweddaru yn sgil yr argymhellion.

 

Yn y cyfamser, mae rhai canfyddiadau defnyddiol eisoes wedi dod i'r amlwg o waith a wnaed eisoes. Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolygon dros y ffôn gyda rhieni plant ysgol y cofnodwyd nad oeddent wedi cael brechiadau MMR llawn mewn rhai ysgolion yn Abertawe a Threfynwy.  Canfu'r arolygon hyn fod cyfran fach iawn o'r rhieni hyn wedi nodi pryder parhaus ynghylch diogelwch y brechlyn MMR fel rheswm dros beidio â gadael i'w plant gael eu himiwneiddio.  Mae hyn yn awgrymu bod y mwyafrif helaeth o rieni bellach o'r farn bod y brechlyn MMR yn ddiogel ac yn effeithiol. 

 

Yn ogystal, dengys data sy'n dod i'r amlwg o'r ardal lle cafwyd achosion yn Abertawe fod dau ddogn o'r brechiad MMR wedi bod yn fwy na 99% effeithiol wrth atal yr haint, gyda llai na 10 o achosion wedi'u cadarnhau ymhlith pobl a gafodd eu brechu'n flaenorol. Mae'r data hefyd yn awgrymu bod un dogn o'r brechlyn MMR yn diogelu pobl rhag y frech goch mewn mwy na 95% o'r achosion a gafodd eu brechu - sy'n uwch na'r hyn a welwyd yn flaenorol.

 

Mae'r canfyddiadau hyn yn galonogol ond ni ddylid llaesu dwylo. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld bod unigolion a sefydliadau sy'n barod i hyrwyddo'r brechlyn unigol ar gyfer y frech goch o hyd. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r defnydd o frechlynnau didrwydded a byddwn yn parhau i atgyfnerthu'r neges mai'r brechlyn MMR yw'r unig opsiwn diogel ac effeithiol.   

 

Casgliad

 

Mae'r achosion o'r frech goch wedi galluogi Llywodraeth Cymru a gweithwyr iechyd proffesiynol i ailymgysylltu â'r cyhoedd, a rhieni yn arbennig, ynghylch pwysigrwydd brechu yn erbyn y frech goch a chlefydau eraill a allai fod yn ddifrifol. 

 

Mae adroddiad COVER chwarterol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos bod 95% o blant dwy oed bellach yn cael y dogn cyntaf o MMR ar gyfartaledd ledled y wlad, am y tro cyntaf erioed, a chaiff y gyfradd hon ei chyflawni gan y nifer fwyaf erioed o awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae hyn yn deillio o duedd gadarnhaol hirdymor, yn dilyn ymdrechion ar y cyd dros nifer o flynyddoedd a gafodd hwb gan ymdrechion Byrddau Iechyd, Meddygfeydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru dros yr wythnosau diwethaf.   Mae angen gwneud rhagor o waith i gynnal y lefel hon a gwella cyfraddau dau ddogn yr MMR ymhlith plant sy'n cyrraedd pump oed ac 16 oed, sef 90% ac 82% yn y drefn honno ar hyn o bryd.

 

Bydd swyddogion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod pob mesur sydd ar gael ar waith i alluogi plant sydd wedi methu brechlyn i ddal i fyny, gan gynnwys y rheini mewn grwpiau 'anodd eu cyrraedd'. Ategir hyn gan Fframwaith Cyflawni newydd y GIG, sy'n cynnwys, fel mesur Haen 1, yr angen i sicrhau bod 95% o blant yn cael eu himiwneiddio'n llawn erbyn pedair oed.

 

Mae'r ymateb i'r achosion o'r frech goch yng Nghymru wedi rhoi hwb i'r tair gwlad arall yn y DU gyflwyno rhaglenni dal i fyny ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau yn eu hardaloedd.   Fel yr amlinellais uchod, mae'r camau amserol a gymerwyd yma wedi lleihau difrifoldeb yr achosion ac wedi golygu eu bod wedi para am lai o amser.

 

Mae'n amlwg bod yr ymateb yng Nghymru wedi cael budd o system iechyd y cyhoedd genedlaethol a all arwain a chydgysylltu ymdrech ddwys ac effeithiol sy'n cynnwys gofal sylfaenol, awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol. O ganlyniad, bu modd i wasanaethau ymateb yn gyflym a sefydlu prosesau i roi nifer fawr o frechiadau mewn ffordd effeithlon ac effeithiol y tu hwnt i drefniadau rheolaidd.

 

 

 


Atodiad 1

 

Nifer yr achosion o'r frech goch a gofnodwyd yng Nghymru fesul wythnos

Siart yn nodi nifer yr achosion a gofnodwyd fesul wythnos: wythnos yn dechrau 29/10/2012 - wythnos yn dechrau 17/06/2013

 

 

measles notifications to week 25 2013

Data tan ddiwedd wythnos 25 2013 (17/06/13 - 23/06/13). Data dros dro a geir ar gyfer wythnos 25 a gall gynyddu yn sgil achosion a gofnodwyd yn hwyr.

 

Ffynhonnell:CoSurv Notifications, Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad 2

 

Y nifer gronnol o frechiadau MMR a roddwyd ar oedrannau nad ydynt yn oedrannau brechu rheolaidd

18/03/13 – 23/06/13

 

 

Meddyg teulu*

Clinigau Galw Heibio

 

Sesiynau Ysgol

 

Iechyd Galwedigaethol

 

Cyfanswm

BIP Abertawe Bro Morgannwg

16859

8764

1749

2600

29882

BI Aneurin Bevan

9233

2940

2094

472

14739

BIP Betsi Cadwaladr

3132

0

1344

548

5024

BIP Caerdydd a'r Fro

4442

214

1283

1108

7047

BI Cwm Taf

3402

0

1640

466

5508

BI Hywel Dda

5527

570

1204

386

7687

BI Addysgu Powys

2485

29

330

59

2903

Cyfanswm Cymru

45080

12427

9644

5639

72790

 

·         Efallai y bydd y ffigurau ar gyfer yr wythnos ddiweddaraf yn cynyddu wrth i ddata hwyr gael ei gyflwyno. Data wedi'i gyflwyno gan tua 90% o'r meddygfeydd yng Nghymru. Dechreuwyd casglu data ran o'r ffordd drwy'r wythnos yn dechrau 11/03/2013.

 

Ffynhonnell: Data meddygon teulu o Audit+ DQS, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Cwm Taf, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Addysgu Iechyd Powys

 


Atodiad 3

 

 

Y newid yng nghyfran y plant a phobl ifanc rhwng 10 a 18 oed mewn ardaloedd Byrddau Iechyd lle cofnodwyd nad oeddent wedi cael unrhyw ddognau MMR rhwng mis Tachwedd 2012 a mis Mai 2013

 

 

 

Ffynhonnell data: NCCHD, Chwefror 2013 a diweddariadau Mai 2013 i

Iechyd Cyhoeddus Cymru